Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 29 Ionawr 2015 |
|
||||
Amser: |
13.00 - 14.55 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(4)2015(2) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd) Peter Black AC Angela Burns AC Sandy Mewies AC Rhodri Glyn Thomas AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Neil Bradley, Cydgysylltydd Cynaliadwyedd y Cynulliad Sulafa Thomas, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol Jon Stratford, Assistant Chief Constable, Heddlu De Cymru Josh Jones, Chief Superintendent, Heddlu De Cymru
|
||||
|
|
|||||
1 Rhagarweiniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr.
2 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch - Eitem lafar
Cafodd y Comisiwn sesiwn friffio diogelwch, a bydd yn ystyried amrywiaeth o opsiynau mewn cysylltiad â diogelwch ar y safle. Penderfynodd y Comisiynwyr drafod y mater eto yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror.
3 Strategaeth Rheoli Carbon - Casgliad a Chynlluniau’r Dyfodol
Trafododd y Comisiynwyr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o’n prif gyflawniadau mewn cysylltiad â’r targedau corfforaethol ac a arweiniodd at y Strategaeth Rheoli Carbon. Croesawodd y Comisiynwyr y manylion am y gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau carbon a gyflwynwyd drwy’r strategaeth hon. Mae’r Comisiwn yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod drwy’r Trywydd Lleihau Ynni y cytunwyd arno y llynedd.
Canmolodd y Comisiynwyr yr adroddiad a’r gwaith a wnaed i gyflawni llwyddiant o’r fath, gan dynnu sylw’n benodol at y wobr ddiweddar ar gyfer Sefydliad Sector Cyhoeddus Mwyaf Cynaliadwy mewn Llywodraeth ledled y DU. Cytunwyd y dylid cyhoeddi’r adroddiad ar dudalen cynaliadwyedd gwefan y Comisiwn.
4 Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol, Ebrill - Mehefin 2014
Trafododd y Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi’r Adroddiad Perfformiad Corfforaethol drafft ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Rhagfyr 2014.
Ystyriodd y Comisiynwyr nifer o feysydd a drafodir yn yr adroddiad, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymweliadau gan ysgolion a gwella lefelau salwch staff.
Nododd y Comisiynwyr pa mor ddefnyddiol oedd yr adroddiad ond efallai bod angen ystyried ei symleiddio a pheidio â chael gormod o dargedau.
5 Adroddiad ar y Prif Bwyntiau (Gorffennaf - Rhagfyr 2014)
Adolygodd y Comisiynwyr yr adroddiad diweddaraf ar y prif bwyntiau a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y prif weithgareddau a phrosiectau ers mis Mehefin 2014. Cytunwyd i gyhoeddi’r adroddiad a sicrhau ei fod ar gael i Aelodau.
6 Adolygiad o Effeithiolrwydd Comisiwn y Cynulliad - y diweddaraf ar y camau gweithredu
Gwnaeth y Comisiwn adolygu a diweddaru ei Gynllun Gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion yn yr adroddiad ar adolygiad o effeithiolrwydd y Comisiwn.
7 Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - 10 Tachwedd 2014
Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar 10 Tachwedd, ar ôl cael diweddariad ar lafar am y cyfarfod ym mis Rhagfyr.
8 Unrhyw fater arall
Bydd y Comisiwn yn cyfarfod nesaf ar 9 Chwefror, pan fydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar ymgysylltu â phobl Cymru, a bydd y Comisiynwyr yn trafod materion diogelwch unwaith eto.